Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2017

Amser: 09.00 - 09.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3943


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mike Hedges AC (Cadeirydd)

Gareth Bennett AC

Janet Finch-Saunders AC

Dai Lloyd AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

Jessica England (Dirprwy Glerc)

Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol)

Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 303KB) Gweld fel HTML (103KB)

 

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

</AI2>

<AI3>

2       Deisebau newydd

</AI3>

<AI4>

2.1   P-05-718 Cyflogau GIG Cymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i ofyn ei farn ar y wybodaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

 

</AI4>

<AI5>

2.2   P-05-723 Sefydlu System Bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar gyfer Etholiadau Cynghorau Lleol Cymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ohirio ei thrafodaethau tan fod y gwaith o graffu ar Fil Cymru wedi'i gwblhau, ac i ystyried safbwyntiau manwl y deisebydd ar y cam hwnnw.

 

</AI5>

<AI6>

2.3   P-05-729 Cael Gwared ar Gyfyngiadau Cyflymder ar yr M4 wrth Dwnelau Bryn-glas

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn a oes asesiad llawn wedi'i gyflawni o effaith cyflwyno terfyn cyflymder newidiol, a gofyn iddo rannu unrhyw ganfyddiadau â'r Pwyllgor.

 

 

</AI6>

<AI7>

2.4   P-05-730 Cyllid ac Ariannu Llywodraeth Leol

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol er mwyn gofyn a fyddai'r deisebwyr yn gallu cyfrannu at y broses o ddatblygu cynigion i ddiwygio llywodraeth leol, ac os felly, sut.

 

 

</AI7>

<AI8>

2.5   P-05-731 Gwerthu Tir a Lonydd Mynediad yn Abercwmboi

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd cyn penderfynu pa gamau i'w cymryd ynglŷn â'r mater.

 

</AI8>

<AI9>

2.6   P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd, ac i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn pa gamau sy'n cael eu cymryd i wella amseroedd aros yr adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam.

 

 

</AI9>

<AI10>

2.7   P-05-733 Dim gweithredu pellach ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru o gwbl

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar ymateb Llywodraeth Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r mater hwn.

 

</AI10>

<AI11>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI11>

<AI12>

3.1   P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddiweddaraf gan y deisebydd gan fynegi siom na gafwyd ymateb i'r ohebiaeth flaenorol a anfonwyd at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu eto at y Bwrdd Iechyd, gan geisio:

·         ei ymateb i'r sylwadau diweddaraf gan y deisebydd, a;

·         gwybodaeth am fynediad i wasanaethau mân anafiadau yn ardal Tywyn, gan gynnwys y tu allan i oriau agor Ysbyty Tywyn.

 

 

 

 

</AI12>

<AI13>

3.2   P-04-621 Cadw’r Uned Famolaeth dan Arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar Agor

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y deisebydd bellach wedi cadarnhau, gan na chyflwynwyd y newidiadau arfaethedig y rhoddwyd sylw iddynt yn y ddeiseb, ei bod yn fodlon bod canlyniad derbyniol wedi'i sicrhau ar y mater.

 

 

</AI13>

<AI14>

3.3   P-04-663 Bwyd yn Ysbytai Cymru

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a chytunodd i aros am adroddiad y Pwyllgor ar arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion, ac i geisio barn y deisebydd ar ôl hynny.

 

 

</AI14>

<AI15>

3.4   P-04-676 Creu Pencampwr yr Iaith Gymraeg mewn Cymunedau yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ei gyfraniad.  Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i rannu'r cynnig a wnaed gan y deisebydd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu pencampwyr iaith cymunedol gyda Llywodraeth Cymru ac Un Llais Cymru.

 

 

</AI15>

<AI16>

3.5   P-04-681 Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a chytunodd i ofyn am ragor o wybodaeth am sut y mae'n bwriadu mynd ati i orfodi'r drefn o recordio trafodion.

 

</AI16>

<AI17>

3.6   P-05-728 Diogelu Cyllid Teuluoedd yn Gyntaf

Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail y bydd y gyllideb ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei chynnal ar gyfer 2017-2018.

 

</AI17>

<AI18>

3.7   P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i rannu canlyniadau'r cynllun monitro traffig gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, gan ofyn am ei sylwadau a gofyn a allai'r wybodaeth hon gael ei hystyried fel rhan o'r gwaith parhaus ar ddiogelwch y darn hwn o'r ffordd.

 

</AI18>

<AI19>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

</AI19>

<AI20>

5       P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (prawf gwaed CA125)

</AI20>

<AI21>

6       Blaenraglen Waith

</AI21>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>